Revision 1424191 of "Hwyaden Gribog" on cywiki

{{Blwch tacson
| enw = Hwyaden Gribog
| delwedd = MandarinDuck.jpg
| maint_delwedd = 225px
| neges_delwedd = Ceiliog
| regnum = [[Animalia]]
| phylum = [[Chordata]]
| classis = [[Aves]]
| ordo = [[Anseriformes]]
| familia = [[Anatidae]]
| genus = ''[[Aix (genws)|Aix]]''
| species = '''''A. galericulata'''''
| enw_deuenwol = ''Aix galericulata''
| awdurdod_deuenwol = ([[Carolus Linnaeus|Linnaeus]], 1758)
}}
Mae'r '''Hwyaden Gribog''' neu '''Hwyaden Fandarin''' ('''''Aix galericulata''''') yn hwyaden weddol fach, 41-49 cm o hyd a 65-75 cm ar draws yr adenydd. Mae'r ceiliog yn darawiadol dros ben, gyda phig coch, cochaidd ar yr wyneb a phorffor ar ei fron. Nid yw'r iar mor darawiadol, gyda phlu brown neu lwyd. 

O dde-ddwyrain [[Asia]], yn enwedig [[China]] a [[Japan]] y mae'r rhywogaeth yma yn dod. Mae'n hoffi pyllau dŵr cymharol fach mewn fforestydd. Gan fod llawer o'r fforestydd hyn wedi eu dinistrio, mae wedi mynd yn aderyn prin. Credir fod tua mil o barau yr un yn nwyrain [[Rwsia]] a [[China]], ond mae tipyn mwy yn Japan - tua  5,000 o barau. 

Oherwydd fod y ceiliog mor hardd, mae'n hwyaden boblogaidd iawn mewn casgliadau o hwyaid dôf. O bryd i'w gilydd llwyddodd rhai i ddianc, ac yn ystod yr [[ugeinfed ganrif]] mae'r rhain wedi rhoi bodolaeth i boblogaeth o tua 1,000 o barau ym [[Prydain Fawr|Mhrydain Fawr]], sy'n gyfran eithaf sylweddol o boblogaeth y rhywogaeth yma trwy'r byd. Yng [[Cymru|Nghymru]] mae poblogaeth fychan yn magu ar [[Afon Glaslyn]] ger [[Porthmadog]] er enghraifft.
[[Delwedd:Female Mandarin Duck 800.jpg|200px|chwith|bawd|Iâr]]
Maent yn dodwy eu wyau mewn tyllau mewn coed sy'n tyfu'n agos i'r lan. Maent yn bwyta planhigion yn bennaf. 

[[Categori:Hwyaid]]

[[ceb:Aix galericulata]]
[[id:Bebek mandarin]]