Revision 71089 of "Wiciadur:UGG Women Boots,Wholesale UGG Boots,Cheap UGG Boots,Discount UGG Boots" on cywiktionary[[Delwedd:Messagebox info.svg|bawd|110px]]
{{llwybr byr|WC:CNDD}}
'''Helo a chroeso!'''<br /> Mae Wiciadur yn [[geiriadur|eiriadur]] a [[:Categori:WiciSawrws|thesawrws]] [[amlieithog]] sy'n [[rhad ac am ddim]]. Caiff ei ysgrifennu'n gydweithredol ar y wefan hon gan bobl ledled y wlad. Gall unrhyw un [[golygu|olygu]]'r [[cofnod|cofnodion]] a geir yma!
Rydym wedi creu '''{{NUMBEROFARTICLES}}''' o erthyglau ers dechrau ym mis [[Mawrth]], 2006, ac rydym yn cynyddu o ddydd i ddydd.
==Golygu Wiciadur==
Mae pobl fel chi yn allweddol wrth gynnal [[prosiect]] fel hwn. Tra'ch bod chi'n darllen hwn, mae'n bosib fod rhywun arall yn golygu un o'n cofnodion. Mae llawer o bobl [[gwybodus]] ar waith eisoes, ond mae [[croeso]] cynnes i bawb!
Nid oes rhaid [{{fullurl:Special:Userlogin|type=signup}} mewngofnodi] er mwyn golygu, ond buasai'n well gennym pe byddech yn gwneud hynny, am ei fod yn hwyluso [[gweinyddiaeth]] y wefan. (Sylwer hefyd fod mewngofnodi'n golygu na fydd cyfeiriad [[IP]] eich cyfrifiadur yn cael ei arddangos ar [{{fullurl:Wiktionary:Welcome, newcomers|action=history}} hanes y dudalen].) Mae nifer o [[Wiciadur:Pam creu cyfrif?|fanteision]] dros greu cyfrif hefyd.
Gallwch [[bwrw ati|fwrw ati]]'n syth drwy ychwanegu neu ddiwygio diffiniad, ychwanegu brawddegau fel esiamplau, neu ein cynorthwyo i fformatio a chategoreiddio cofnodion yn gywir. Gallwch [[Cymorth:Dechrau tudalen newydd|greu tudalen newydd]] ar gyfer gair neu ymadrodd sydd ar goll hyd yn oed. [[Wiciadur:Byddwch ddewr wrth ddiweddaru tudalennau|Byddwch ddewr]] wrth olygu tudalennau!
Sut ar y ddaear mae caniatau i bawb olygu yn cynhyrchu geiriadur o safon uchel yn hytrach nag anarchiaeth llwyr? Am fod y mwyafrif o gyfrannwyr eisiau helpu, a thrwy gadw'r prosiect yn agored i bawb, rhydd y potensial i greu a gwella cofnodion yn barhaus. Cedwir cofnod o'r holl newidiadau, ac felly gall defnyddwyr eraill [[gwrthdroi|wrthdroi]] golygiadau gwael.
Er mwyn bwrw ati, efallai yr hoffech ddefnyddio'r dolenni "[[Arbennig:Recentchanges|Newidiadau diweddar]]" neu "[[Arbennig:Random|Cofnod ar hap]]" (sydd yn y blwch llywio yng nghornel chwith uchaf y dudalen hon), er mwyn cael syniad o'r math o dudalennau y gallwch ddod o hyd iddynt yn yn fan hon.
==Arferion a chwrteisi==
Un peth y dylech wybod yw rhai o'r arferion y dylech ddilyn a pharchu sydd wedi cael eu benthyg wrth ein chwaer brosiect [[w:Wicipedia|Wicipedia]] :
# Ceisiwch beidio a dadlau'n ddiangen. Nid fforwm drafod mo Wiciadur. Ar ôl cael trafodaeth gwrtais a rhesymegol, rydym yn ceisio dod i gonsensws eang er mwyn cyflwyno crynodeb cywir, diduedd o'r holl ffeithiau perthnasol ar gyfer darllenwyr y dyfodol.
# Rydym yn ceisio sicrhau fod ein cofnodion mor ddiduedd a phosib, gan sicrhau nad yw diffiniadau na disgrifiadau — hyd yn oed ar bynciau llosg — yn lwyfan ar gyfer cyfleu agenda bersonol o unrhyw fath.
# Cofiwch mai ''geiriadur'' yw hwn, sy'n golygu nad yw [[Wiciadur:Anaddas ar gyfer Wiciadur|Wiciadur yn nifer o bethau gwahanol]].
# Os ar unrhyw adeg, rydych yn teimlo'n anghyfforddus yn newid gwaith rhywun arall, a'ch bod eisiau ychwanegu eich barn (neu gwestiwn neu sylwad) am gofnod neu unrhyw dudalen arall, gallwch wneud hyn ar ei [[Wiciadur:Tudalen sgwrs|dudalen sgwrs]] (cliciwch ar y tab "sgwrs" ar frig y dudalen. Fodd bynnag, sylwch ein bod yn ceisio cadw'r sgwrs er mwyn trafod ffyrdd i wella'r geiriadur hwn.
Am fwy o wybodaeth am ein polisïau a chanllawiau arddull, gweler [[Wiciadur:Porth y Gymuned|Porth y Gymuned]].
==Gweler hefyd==
Ceir mwy o wybodaeth gyffredinol a disgrifiadau o arferion y gymuned ar y tudalennau canlynol:
*[[Wiciadur:Ynglŷn â Wiciadur|Ynglŷn â'r prosiect]]
*[[Wiciadur:Pori Wiciadur|Sut i ddod o hyd i wybodaeth ar Wiciadur]]''
*[[Cymorth:Cynnwys|Tudalennau Cymorth]] — cymorth ar olygu, dechrau erthyglau newydd, a nifer o bynciau eraill.
* [[Cymorth:Dechrau tudalen newydd|Sut i ddechrau tudalen newydd]]
* [[Cymorth:Sut i olygu tudalen|Sut i olygu tudalen]]
*[[Wiciadur:Cwestiynau Cyffredin|Cwestiynau Cyffredin]] — cwestiynau a ofynnir yn aml ynglŷn â'r wefan.
*[[Wiciadur:Polisïau a chanllawiau|Polisïau a Chanllawiau]]
*[[Wiciadur:Canllaw ieithwedd ac arddull|Canllaw Ieithwedd ac Arddull]]
[[Categori:Wiciadur|Croeso, newydd-ddyfodiaid]]
[[de:Wiktionary:Willkommen]]
[[en:Wiktionary:Welcome, newcomers]]
[[eo:Vikivortaro:Enkonduko]]
[[es:Wikcionario:Bienvenido]]
[[lb:Wiktionary:Wëllkomm]]
[[nl:Wiktionary:Welkom]]
[[pt:Wikcionário:Bem-vindo]]
[[vi:Wiktionary:Chào mừng người mới đến]]
[[zh:Wiktionary:%E6%AC%A2%E8%BF%8E%EF%BC%8C%E6%96%B0%E6%9D%A5%E8%80%85]]
[[km:Wiktionary:ស្វាគមន៍]]All content in the above text box is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike license Version 4 and was originally sourced from https://cy.wiktionary.org/w/index.php?oldid=71089.
![]() ![]() This site is not affiliated with or endorsed in any way by the Wikimedia Foundation or any of its affiliates. In fact, we fucking despise them.
|